The Pilgrim's Process

by Jacob Whittaker

 

 

Proses y Pererin: Dilyn Olion Bysedd
Mae’r ffilm newydd hon yn dilyn prosiect ‘Olion Bysedd Acwstig’ o amgylch capeli yn nyffryn Teifi. Mae’r gwaith yn cofnodi’r gweithgareddau yn ystod yr ymweliadau, yn ogystal â’r siwrneiau a wnaethpwyd i’r capeli amrywiol, ac mae’n tynnu cipluniau o’r adeiladau hyn yn eu cyflwr cyfredol. Mae’r prif gamera’n archwilio’r lleoedd gan ddefnyddio technegau ffilmio ffurfiol, chwyddo a thremio araf, gan astudio sut mae golau’n dod i mewn, yn adlewyrchu ac yn amlygu’r manylion. Mae’r tristwch sy’n gysylltiedig â cholled ymddangosiadol perthnasedd y traddodiad hwn i genedlaethau newydd, a’r anawsterau sy’n wynebu cynulleidfaoedd prinnach wrth gynnal adeiladau hanesyddol, yn cael ei wrthwynebu gan y bensaernïaeth brydferth, y crefftwaith a’r gwaith cynnal a chadw gofalus iawn a welir yno, sy’n amlygu pwysigrwydd yr adeiladau hyn yn y gymuned, yn y gorffennol a’r presennol.

Hyd yma, mae ffilm fer ar gyfer pob safle yr ymwelwyd ag ef. Cyfnod nesaf y gwaith ffilm hwn yw datblygu traciau sain ar gyfer pob un o’r gwahanol gapeli. Rwy’n awyddus iawn i gynnwys storïau personol a gwybodaeth hanesyddol am yr adeiladau, a byddwn yn falch iawn o glywed gan unrhyw un sy’n fodlon cael cyfweliad am unrhyw un o’r capeli yn ddyffryn Teifi.

Tabernacle (Aberteifi), Bethania (Aberteifi), Capel Mair (Aberteifi), Hen Gapel (Llechryd), Tabernacle (Llechryd), Trewen (Cwm Cou), Bethel (Velindre), Capel Y Graig (Llandyssul), Clos-Y-Graig (Drefelin), Capel Saron, Capel Y Groes (Llanwnen), Capel Alltyblaca, Capel Llwynrhydowen, Capel Cenarth, Gwernllwyn (Penrhiwllan), New Mill, Bryn Salem (Poppit), Capel Soan (Poppit), St John’s Mission (Abercych), Noddfa (Llambed), Pen Y Bont (Llandyssul), Blaenwaun (Llandudoch), Bethsaida (Llandudoch)

Ebost: jakewhittaker@hotmail.com

Cefnogir Proses y Pererin: Dilyn Olion Bysedd gan Gyngor Celfyddydau Cymru.
Artswales.org.uk

 

http://www.jacobwhittaker.co.uk

Pererin Digidol: Y Ddechreuad

Atgofion o gapeli, darnau o’r gorffennol wedi’u distyllu i ffilm, symudiadau afluniedig, delweddau o dreigl amser.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

The Pilgrim's Process is a visual art, video and film project examining chapels in Wales.

Presented as part of GWRANDO's ongoing Capeli project

The Pilgrim's Process images